Pwysleisiodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau amcanion strategaeth newydd llywodraeth Cymru 'Iaith fyw: iaith byw' ar gyfer y Gymraeg ar 13 Mawrth 2012.
Wrth arwain y ddadl dywedodd Leighton Andrews AC fod y strategaeth yn gweithio tuag at "annog a chefnogi'r defnydd o'r iaith Gymraeg mewn teuluoedd, cynyddu'r ddarpariaeth o weithgareddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc a chryfhau sefyllfa'r iaith Gymraeg yn y gymuned".
Fe wnaeth yr AC Ceidwadol Suzy Davies alw ar y llywodraeth i egluro lefel y cyfranogiad a fydd gan sefydliadau gwirfoddol, annibynnol a phreifat wrth gyflenwi'r strategaeth.
Nododd Bethan Jenkins, AC Plaid Cymru â phryder y ffaith bod nifer y cymunedau lle mae dros 70% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg wedi gostwng yn sylweddol yn ôl y cyfrifiad diwethaf.
Galwodd hefyd ar i'r llywodraeth sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i gynllunio ar gyfer cynyddu nifer y cymunedau lle mae'r Gymraeg yn brif iaith.
Wrth gyfrannu at y ddadl fe wnaeth Eluned Parrott AC o'r Democratiaid Rhyddfrydol alw ar y llywodraeth i nodi sut y caiff ei thargedau i gynyddu nifer y disgyblion sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg eu cyrraedd.
Cafodd y cynnig wedi ei ddiwygio ei gymeradwyo.
Darllenwch hwn yn Saesneg.
Bookmark with:
What are these?
E-mail this to a friend