Yn ei ddadl olaf yn y siambr fel arweinydd y Plaid Cymru, bu Ieuan Wyn Jones AC yn dadlau fod pobl yng Nghymru ar y blaen o'r mwyafrif o wleidyddion pan oedd hi'n dod i bwerau pellach i'r wlad.
Yn y ddadl ar 14 Mawrth 2012, fe nododd Mr Jones fod dau draean o bobl yn 2012 o blaid pwerau amrywio trethi i Gymru a bod 28% yn ystyried y dylai'r cynulliad fod yn gyfrifol am yr holl drethi.
Fe bwysleisiodd arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies AC y byddai elfennau o gyfrifoldeb ariannol yn annog atebolrwydd.
Fe gododd AC Pontypridd Mick Antoniw y cwestiwn o berthynas Cymru gyda gweddill y DU, ac fe wnaeth ACau eraill hefyd trafod pwnc llywodraeth ranbarthol.
Fe wnaeth AC Gogledd Caerdydd Julie Morgan ddadlau fod potential i ddatblygu mwy o bwerau i'r cynulliad, megis cyfiawnder ieuenctid, a dywedodd bod angen trafodaeth fanwl am y posibilrwydd o ddatganoli gwasanaeth yr heddlu.
Pwysleisiodd y Prif Weinidog Carwyn Jones AC fod newid cyfansoddiadol yn cymryd lle yn y DU damaid wrth damaid a bod angen confensiwn cyfansoddiadol ysgrifenedig cyflawn o fewn y DU.
Ymhlith y teyrngedau a dalwyd i Ieuan Wyn Jones oedd un AC Plaid Cymru Dafydd Ellis Thomas, a wnaeth ganmol penderfyniad Mr Jones i arwain Plaid Cymru i mewn i lywodraeth am y tro cyntaf.
Fe wnaeth Mr Thomas hefyd amlinellu cyfraniad Mr Jones fel Gweinidog yr Economi a'r
Darllenwch hwn yn Saesneg.
Bookmark with:
What are these?
E-mail this to a friend