Yn ôl Llyr Huws Gruffydd, AC Gogledd Cymru, mae angen man cychwyn gwahanol ar gyfer cynllunio trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig.
Mewn dadl ar Gynllun Trafnidiaeth Genedlaethol llywodraeth Cymru ar 7 Mawrth 2012, bu Mr Gruffydd yn dadlau fod angen asesu anghenion cymunedau gwledig yn y lle cyntaf, ac yna cyflwyno datrysiadau penodol.
Fe wnaeth yr AC Llafur, Rebecca Evans dynnu sylw at y ffordd mae diffygion trafnidiaeth gyhoeddus yn gallu effeithio ar ansawdd bywyd pobl ifanc.
Galwodd Arweinydd Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones ar y llywodraeth i ystyried sefydlu corff newydd tebyg i Glas Cymru i redeg gwasanaethau trên yng Nghymru.
Fe gadarnhaodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Carl Sargeant ei fod mewn trafodaethau gyda'r diwydiant bws ac y byddai'n gwneud cyhoeddiad maes o law.
Cafodd y cynnig ei gymeradwyo.
Darllenwch hwn yn Saesneg.
Bookmark with:
What are these?
E-mail this to a friend