Page last updated at 11:23 GMT, Tuesday, 6 March 2012

Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Mae ymdrechion landlordiaid i ymrwymo eu tenantiaid yng ngofynion Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) yn anghyson yn ôl John Drysdale o'r Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid (TPAS).

Wrth gyflwyno tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar 6 Mawrth 2012, rhybuddiodd fod yna "fynydd ia o bobl" sydd ddim yn rhan o'r hyn sy'n digwydd nac yn ymwybodol ohono.

SATC yw'r safon ofynnol ar gyfer cartrefi â thenantiaid, sy'n cynnwys elfennau craidd sy'n fwy heriol na rhaglenni yn y rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.

Mewn nifer o achosion mae gofyn i'r landlordiaid roi cegin neu ystafell ymolchi newydd yn y tŷ.

Roedd aelodau'r pwyllgor yn trafod y safonau wrth ystyried adroddiad ar safonau tai cymdeithasol a gafodd ei chyhoeddi ym mis Ionawr 2012.

Mae'r adroddiad yn edrych ar y cynnydd o ran cyrraedd SATC a gafodd ei gyflwyno gan lywodraeth Cymru yn 2002 er mwyn helpu gwella safonau tai cymdeithasol.

Er bod yr adroddiad yn cydnabod fod llawer o denantiaid wedi gweld gwelliannau sylweddol yn ansawdd eu tai, mae'n rhybuddio na fydd y nod gwreiddiol y byddai'r holl dai cymdeithasol yn cyrraedd SATC erbyn 2012 yn cael ei gyflawni am gryn amser.

Aelodau'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific