Page last updated at 15:46 GMT, Tuesday, 6 March 2012

Datganiad llywodraeth leol

Cymru fydd y rhan gyntaf o'r DU lle bydd uwch swyddogion ymchwilio yn derbyn hyfforddiant er mwyn mynd i'r afael â masnachu pobl, cyhoeddodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ar 6 Mawrth 2012.

Yn ôl Carl Sargeant AC, bydd yr hyfforddiant yn cychwyn o fewn y tri mis nesaf a bydd pob un o awdurdodau'r heddlu a'r Gwasanaeth Erlyn y Goron yn rhan ohono.

Mae Cymru hefyd yn arwain y gad wrth apwyntio cydlynydd i fynd i'r afael â masnachu pobl a sicrhau'r gefnogaeth orau posib i'r dioddefwyr.

Amlinellodd y gweinidog ei ymrwymiad i waredu masnachu pobl gan ei fod yn "achosi dioddefaint a thristwch mawr i rhai o aelodau'r gymdeithas sydd fwyaf agored i newid".

Roedd 34 achos ar gofnod o fasnachu mewn pobl yng Nghymru yn y tair blynedd ddiwethaf ond nid yw hyn yn adlewyrchu'r darlun llawn rhybuddiodd y gweinidog.

Gan fod ymchwil wedi awgrymu fod digwyddiadau chwaraeon cenedlaethol yn hyrwyddo'r galw am dalu am ryw, pwysleisiodd y gweinidog yr angen i Gymru fod yn barod ar gyfer y gemau Olympaidd a Phara-olympaidd.

Fe wnaeth ACau o bob plaid groesawu cyhoeddiad y gweinidog gan estyn eu cefnogaeth i'w ymdrechion i fynd i'r afael â'r drosedd erchyll.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific