Page last updated at 18:40 GMT, Wednesday, 22 February 2012

Dadl y Democratiaid Rhyddfrydol ar AWEMA

Fe wnaeth gweinidogion y llywodraeth dderbyn rhybudd ar ôl rhybudd ynghylch llygredd ariannol o fewn elusen lleiafrifoedd ethnig Awema, dywedodd AC y Democratiaid Rhyddfrydol Peter Black AC ar 22 Chwefror 2012.

Fe wnaeth y datganiad wrth arwain dadl ei blaid ar ariannu Awema.

Mae Awema wedi bod yn ganolog i gyhuddiadau o lygredd ariannol a bwlio ac fe gafodd yr arian i'r elusen ei rewi ar 11 Chwefror 2012.

Mae'r sefydliad wedi delio â phrosiectau sydd wedi eu hariannu gan dros £8m o arian cyhoeddus.

Fe wnaeth AC Plaid Cymru Rhodri Glyn Thomas gwestiynu atebolrwydd llywodraeth Cymru wrth iddo nodi fod cyn-gadeirydd yr ymddiriedolwyr wedi mynegi pryder am y weinyddiaeth fewnol a rhai o'r uwch swyddogion ond na chafodd dim ei wneud yn ei gylch.

Bu'n dadlau fod hyn yn codi cwestiynau mawr am y ffordd mae'r llywodraeth yn dyrannu arian cyhoeddus.

Wrth gyfrannu at y ddadl fe alwodd y Ceidwadwr Andrew RT Davies ar i adroddiadau 2002 a 2004 gael eu cyhoeddi ar-lein.

Bu hefyd yn gresynu nad oedd amseru cyhoeddi adroddiad 2012 - "A Review of the Effectiveness of Governance and Financial Management within the All Wales Ethnic Minority Association (AWEMA)" wedi rhoi cyfle i Aelodau'r Cynulliad allu craffu arno ar unwaith na rhoi cyfle i'r gweinidog sy'n gyfrifol roi datganiad llafar brys.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt fod llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at Awema i geisio adennill yr arian cyhoeddus sydd ym meddiant y sefydliad.

Fe wnaeth hi hefyd amlinellu ei hymrwymiad i ddiogelu pobl sy'n derbyn cymorth drwy'r prosiectau.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific