Page last updated at 15:34 GMT, Tuesday, 7 February 2012

Datganiad llywodraeth leol

Bydd ymyrraeth y llywodraeth ar Ynys Môn yn parhau tan fis Mai 2013, yn ôl y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Carl Sargeant.

Bu'r gweinidog yn gwneud datganiad ar Gyngor Ynys Môn, ar 7 Chwefror 2012.

Ym mis Mawrth 2011, gorchmynnodd Carl Sargeant gomisiynwyr i gymryd drosodd y cyngor ar ôl blynyddoedd o ymladd gwleidyddol mewnol.

Dywedodd Swyddfa Archwilio Cymru oni bai bod y gweinidog yn ymyrryd ymhellach, roedd rhagolygon y cyngor ar gyfer adferiad llawn yn wael.

Nododd adroddiad wedi tri mis fod gwelliannau mewn rhai adrannau ond fod angen gwaith ar gynllunio busnes ac ariannol.

Mae'r cynghorwyr wedi cael eu canmol am fod arwyddion o newid yn eu hymddygiad.

Cadarnhaodd y gweinidog na fydd yr adferiad yn gwbl gyflawn cyn yr etholiadau lleol ym mis Mai 2013.

Dywedodd Mr Sargeant: "Os bydd y datbkygiad presennol yn parhau, os yw democratiaeth leol yn cael ei adnewyddu, os yw cynghorwyr yn derbyn ac yn wynebu heriau gyllidebol ac os caiff y tim rheoli corfforaethol ei ddiwygio, yna bydd achos ar gyfer lleihau ac yn y pen draw, gorffen fy ymyrraeth."

Ychwanegodd: "Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth ynglyn a phenderfyniad y cynghorwyr. Yn bwysicaf oll, dyma'r hyn y mae pobl Ynys Môn yn haeddu. Os yw pawb dan sylw yn cadw at y nod hwnnw, fe allwn ac fe fyddwn yn cyrraedd y nod."

Mynegodd AC y Ceidwadwyr dros Aberconwy Janet Finch-Saunders ei phryder a dywedodd fod hwn yn "ddiwrnod trist i lywodraeth leol ac ar gyfer y broses ddemocrataidd".

Fe wnaeth AC Plaid Cymru dros Ynys Môn Ieuan Wyn Jones a Llefarydd Llywodraeth Leol y Democratiaid Rhyddfrydol Peter Black groesawu'r datganiad.

Ond fe wnaeth y ddau aelod fynegi ansicrwydd gydag ymyrraeth estynedig y llywodraeth tan fis Mai 2013.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific