Page last updated at 16:22 GMT, Tuesday, 31 January 2012

Datganiad ar yr adolygiad o effeithiolrwydd datblygu cynaliadwy

Mae adroddiad i effeithiolrwydd datblygu cynaliadwy wedi tanlinellu bod angen gwneud mwy, os yw'r llywodraeth am gyflawni ei holl amcanion.

Roedd y Gweinidog Amgylchedd John Griffiths yn gwneud datganiad ar effeithiolrwydd datblygu cynaliadwy, yn ystod y sesiwn lawn, ar 31 Ionawr 2012.

Yn ôl yr adroddiad, tra bod mwy o waith i'w wneud, mae'r llywodraeth wedi datblygu'n sylweddol gyda'i gwaith datblygu cynaliadwy.

Dywedodd y gweinidog: "Mae'n ymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy yn hybu lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol a bydd yn gwella bywydau pobl yng Nghymru."

Ychwanegodd Mr Griffiths: "Mae hynny'n golygu y bydd mwy o bobl iach, cymunedau bywiog, amgylchedd amrywiol ac economi carbon isel arloesol, gyda hynny oll yn newyddion da i Gymru."

Cododd Llefarydd Amgylchedd y Ceidwadwyr Russell George ei bryderon bod y llywodraeth wedi methu â phrif ffrydio datblygu cynaliadwy.

Cytunodd y gweinidog nad oedd Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa foddhaol o safbwynt newid hinsawdd, ond mynnodd fod y llywodraeth yn gweithredu polisïau effeithiol.

Cymeradwyodd AC Plaid Cymru Dafydd Elis-Thomas waith y llywodraeth glymblaid flaenorol rhwng Llafur a Phlaid Cymru gyda'i hymrwymiadau datblygu cynaliadwy.

Dywedodd John Griffiths fod cynnydd cadarnhaol wedi'i wneud a bod ymrwymiad i adolygu'r cynllun yn dilyn etholiadau'r cynulliad.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific