Page last updated at 16:41 GMT, Tuesday, 24 January 2012

Datganiad llywodraeth leol

Dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Carl Sargeant y bydd cytundeb rhwng llywodraeth leol a llywodraeth Cymru yn annog gwasanaethau gwell a gwerth am arian.

Roedd Carl Sargeant yn gwneud datganiad ar y Compact Simpson gyda llywodraeth leol, ar 24 Ionawr 2012.

Y Compact Simpson yw'r cytundeb rhwng Llywodraeth Leol Cymru a llywodraeth Cymru i sicrhau cydweithio.

Yn ôl y gweinidog, mae wedi derbyn ymateb positif gan awdurdodau lleol ynglŷn â chydweithio.

Pwysleisiodd y byddai'r cytundeb yn annog gwasanaethau gwell ar draws Cymru a gwerth am arian.

Croesawodd AC y Ceidwadwyr Janet Finch Saunders y datganiad, ond galwodd ar y llywodraeth i beidio â gorfodi cydweithio rhwng yr awdurdodau lleol.

Mynegodd AC Plaid Cymru Rhodri Glyn Thomas ei siom gyda'r cyn lleied o eglurdeb yn y datganiad.

Dywedodd fod nifer o awdurdodau lleol yn bryderus gyda'r cytundeb newydd.

Rhybuddiodd Mr Thomas y gallai cydweithio achosi problemau difrifol o safbwynt atebolrwydd yr awdurdodau lleol.

Yn ôl Mr Thomas fe allai'r cytundeb greu system ddryslyd yng Nghymru.

Tanlinellodd Llefarydd Llywodraeth Leol y Democratiaid Rhyddfrydol Peter Black bwysigrwydd adrannau llywodraeth Cymru, megis yr NHS, i gydweithio yn ogystal â'r awdurdodau lleol.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific