Page last updated at 11:15 GMT, Tuesday, 17 January 2012

Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn ddigon chwim wrth gefnogi a monitro'r datblygiad tuag at gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru, yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Fe wnaeth Huw Thomas ei sylwadau wrth roi tystiolaeth i'r pwyllgor cyfrifon cyhoeddus ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru' (SATC).

Mae'r adroddiad yn nodi fod llawer o denantiaid wedi gweld gwelliannau sylweddol yn ansawdd eu tai.

Rhybuddiodd Mr Thomas serch hynny na fydd y nod gwreiddiol y byddai'r holl dai cymdeithasol yn cyrraedd SATC erbyn 2012 yn cael ei gyflawni am gryn amser.

Lleisiodd bryder fod y nod gwreiddiol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru wedi ei beni heb dystiolaeth ddigonol.

Er gwaethaf buddsoddiad sylweddol noda'r adroddiad fod y ffaith bod gwaith landlordiaid i ddatblygu cynlluniau gwaith ac amserlenni ar gyfer trosglwyddo stoc awdurdodau lleol wedi bod yn arafach na'r disgwyl wedi effeithio ar y cynnydd a wnaed tuag at gyrraedd SATC.

Bu AC Plaid Cymru Leanne Wood yn dadlau na ddylai unrhyw un fyw mewn cartref ansafonol ac na ddylai safon y tŷ amrywio o ardal i ardal.

Cafodd yr adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol a'i swyddogion ei gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ar 13 Ionawr 2012.

Aelodau'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific