Page last updated at 15:25 GMT, Wednesday, 11 January 2012

Cwestiynau llywodraeth leol

Cafodd y gweinidog llywodraeth leol ei herio gan ACau ar effeithlonrwydd cydweithio rhwng awdurdodau lleol ar draws Cymru.

Roedd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Carl Sargeant yn ateb cwestiynau ACau ar 11 Ionawr 2012.

Gofynnodd AC Llafur yng Nghanol Caerdydd Jenny Rathbone am ddatganiad gan y gweinidog ar gydweithio rhwng awdurdodau lleol er mwyn arbed arian.

Fe wnaeth AC y Democratiaid Rhyddfrydol Peter Black hefyd ofyn i Mr Sargeant i ddatgelu enghreifftiau o hynny'n digwydd o gwmpas y wlad.

Yn ôl Carl Sargeant mae cydweithio rhwng yr awdurdodau yn sicrhau gwell gwasanaethau a defnydd gwell o adnoddau.

Dywedodd Mr Sargeant: "Mae 'na gytundeb gyda'r awdurdodau i gydweithredu."

Ychwanegodd: "Fe fydd hynny yn arwain at wasanaethau gwell a llai costus."

Sicrhaodd y gweinidog bod eisoes nifer o esiamplau o hynny'n digwydd a chytunodd i ysgrifennu at yr aelod gyda'r wybodaeth berthnasol.

Atebodd y gweinidog gwestiynau eraill ynglŷn â chysylltiadau trafnidiaeth, undebau credyd a gwella'r seilwaith ffyrdd yn Ne Ddwyrain Cymru.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific