Page last updated at 16:31 GMT, Tuesday, 6 December 2011

Dadl terfynol ar y gyllideb

Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn parhau'n wrthblaid yn y cynulliad er eu bod wedi gwneud cytundeb gyda Llywodraeth Cymru ynghylch y gyllideb, dywedodd llefarydd cyllid y blaid wrth ACau.

Roedd Peter Black AC yn siarad yn ystod dadl yn y siambr ar gyllideb Llafur ar gyfer 2012-13 ar 6 Rhagfyr 2011.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dod i gytundeb gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol ynghylch y gyllideb £14.5bn.

Fe wadodd Mr Black honiadau gan wrthwynebwyr fod ei blaid wedi bradychu ei egwyddorion gan bwysleisio bod y cytundeb nid yn unig "yn un da i'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, ond hefyd yn gytundeb da i ddisgyblion tlotaf Cymru, yn gytundeb da i addysg ac yn gytundeb da i'r sector gyhoeddus".

Bu llefarydd cyllid y Ceidwadwyr Paul Davies AC yn dadlau nad oedd y gyllideb yn addas ar gyfer yr anghenion a disgrifiodd y trafodaethau "fel saga allan o Yes Minister".

Ymbiliodd ar i'r aelodau gadw'n driw at ei gofidiau gan bleidleisio yn erbyn y cynnig.

Fe wnaeth llefarydd cyllid Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones AC feirniadu'r llywodraeth am "beidio ymateb yn ddigonol i'r argyfwng economaidd sy'n wynebu pobl Cymru".

Blaenoriaeth Plaid Cymru mewn trafodaethau oedd sicrhau hwb i'r economi a dyna pam y byddai aelodau ei blaid yn pleidleisio yn erbyn y cynnig yn ôl Mr Jones.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt fod rhywbeth yn y gyllideb y gallai pob aelod ei gefnogi.

Byddai cymeradwyo'r gyllideb ar amser yn caniatáu i gynghorau a byrddau iechyd lleol i wneud cynlluniau yn ôl Ms Hutt gan roi "hyder a sefydlogrwydd" i'r sector breifat.

Er bod y Ceidwadwyr wedi galw am fwy o wariant ar iechyd, pwysleisiodd fod y llywodraeth yn hyderus y bydd yr arian sydd wedi ei ddidoli, yn ogystal â'r arbedion effeithlonrwydd yn sicrhau gwasanaeth iechyd o safon.

Cafoddy cynnig ei gymeradwyo.



SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific