Page last updated at 11:42 GMT, Tuesday, 6 December 2011

Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Ni all Llywodraeth Cymru gadarnhau faint o gynlluniau mae'n ariannu ar hyn o bryd ac mae hyn yn destun gofid mawr yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Fe leisiodd Huw Vaughan Thomas ei bryderon yn ystod y pwyllgor cyfrifon cyhoeddus ar 6 Rhagfyr 2011.

Pwysleisiodd Mr Thomas fod hyn yn fwy o gonsyrn fyth o ystyried fod Cymru yn defnyddio grantiau nawdd penodol yn fwy nag unrhyw ran arall o'r DU.

Wrth roi tystiolaeth ar ei adroddiad i'r gwerth am arian sy'n cael ei gynnig gan y cynlluniau grantiau, dywedodd Mr Thomas eu bod yn cael eu rheoli'n wael ac nad oes gwersi'n cael eu dysgu o'r camgymeriadau.

Ar nodyn mwy positif, nododd fod Llywodraeth Cymru yn ceisio gwella nifer o gynlluniau sy'n hynod o gymhleth ar hyn o bryd.

Bu cynrychiolwyr o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd yn cyflwyno tystiolaeth gan amlinellu'r prif heriau sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus dros y blynyddoedd nesaf.

Aelodau'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific