Page last updated at 18:26 GMT, Tuesday, 29 November 2011

Datganiad Llywodraeth Leol

Fe wnaeth Carl Sargeant AC, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, ddatganiad ar gyflwyno Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru).

Dyma'r bil cyntaf ers i'r cynulliad gael pwerau deddfu ychwanegol.

Esboniodd y gweinidog taw bwriad y bil yw cynnig proses symlach o greu a gweithredu is-ddeddfau llywodraeth leol ac mae'n cyflwyno trefn newydd i awdurdodau eu dilyn wrth greu nifer o is-ddeddfau.

Trwy symleiddio'r broses, y nôd yn ôl Mr Sargeant yw rhoi mwy o gyfrifoldeb a pherchnogaeth ynghylch y deddfau a bydd hefyd yn dileu rôl gweinidogion Cymru wrth gadarnhau rhai deddfau.

Yn ogystal â hyn, bydd y bil yn cynnig trefn wahanol o weithredu mwy uniongyrchol gyda rhybuddion cost benodol.

Fe wnaeth aelodau o bob plaid groesawu'r bil.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific