Page last updated at 16:24 GMT, Wednesday, 23 November 2011

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Galwodd yr AC Ceidwadol Byron Davies ar Lywodraeth Cymru i gefnogi'r sector drafnidiaeth yng Nghymru ar 23 Tachwedd 2011.

Wrth arwain dadl ei blaid yn y siambr, galwodd Mr Davies am ddatblygu seilwaith trafnidiaeth ac yn benodol gwella'r ffordd rhwng Caerdydd a'r maes awyr er mwyn denu mwy o deithwyr awyr.

Pwysleisiodd AC Gogledd Cymru Aled Roberts bwysigrwydd deialog gyda gweithredwyr cludiant cyhoeddus i wella cysylltiadau ar draws y ffin rhwng gogledd Cymru a meysydd awyr Manceinion a Lerpwl.

Lleisiodd Antointette Sandbach AC ei chefnogaeth i'w safbwynt gan ddweud nad oedd hi'n realistig i drigolion gogledd Cymru ystyried Caerdydd fel eu maes awyr rhyngwladol.

Wrth gyfrannu at y ddadl, galwodd AC y Democratiaid Rhyddfrydol Eluned Parrott ar Lywodraeth Cymru i ddileu'r cymhorthdâl i'r cyswllt hedfan rhwng y De a'r Gogledd ar y cyfle cyntaf ac i ddiystyru rhoi cymhorthdal i gwmnïau hedfan ychwanegol.

Ymbiliodd Rhodri Glyn Thomas AC Plaid Cymru ar y llywodraeth i barhau i ymgyrchu dros ddatganoli toll teithwyr awyr i Gymru gan y byddai'n rhoi hwb i economi'r wlad.

Wrth ymateb i'r ddadl pwysleisiodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ei ymroddiad i hyrwyddo Maes Awyr Caerdydd fel porth rhyngwladol gan ddweud ei fod yn parhau â'i drafodaethau gyda'r maes awyr a'r sector breifat.

Cadarnhaodd Carl Sargeant AC hefyd y bydd yn cyhoeddi ei gynllun trafnidiaeth ym mis Rhagfyr.

Cafodd y cynnig wedi'i ddiwygio ei gymeradwyo.


Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific