Page last updated at 15:11 GMT, Wednesday, 16 November 2011

Cynnig Cyllideb Comisiwn y Cynulliad

Fe wnaeth Aelodau'r Cynulliad gymeradwyo cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2012-13 ar 16 Tachwedd 2011.

Wrth annerch y siambr dywedodd Angela Burns AC, Aelod o'r Comisiwn, y byddai'r comisiwn yn parhau i weithio i sicrhau gwerth am arian ar draws y cynulliad.

Mae cyllideb y comisiwn ar gyfer 2012-13 yn £47 miliwn gyda £13.5 miliwn yn mynd tuag at gyflogau aelodau'r cynulliad, eu staff a'r costau ynghlwm â rhedeg eu swyddfeydd etholiadol.

Mae'r £33.5 miliwn sy'n weddill yn cael ei wario ar wasanaethau comisiwn y cynulliad sy'n cefnogi'r cynulliad.

Mae cyflogau aelodau wedi eu rhewi ar y gyfradd bresennol tan 2014-15 a'r flwyddyn nesaf ni fydd codiad cyflog i'w staff.

Bydd y cyllid ychwanegol ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cael ei ddefnyddio i gwrdd â'r codiad yn y costau mae'r cynulliad eisoes wedi ymrwymo iddynt, ac i gryfhau'r gwasanaeth sy'n cael ei gynnig gan y comisiwn.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific