Page last updated at 16:16 GMT, Thursday, 3 November 2011

Galw am sicrhau annibyniaeth S4C

Rhaid gwneud yn siwr fod yr annibyniaeth sy'n cael ei addo wrth i S4C gael ei ariannu gan y BBC yn digwydd, yn ôl Iestyn Garlick, cadeirydd Teledu Annibynol Cymru (TAC).

Fe wnaeth ei sylwadau wrth roi tystiolaeth i'r Grŵp Gorchwyl ar ddyfodol darlledu ar 3 Tachwedd 2011.

Bu Mr Garlick yn feirniadol iawn o'r berthynas rhwng y sefydliadau gan ddweud fod "wastad sôn am S4C yn mynd at y BBC" ond nad oedd sôn am y BBC yn symud rhai o'i agweddau at S4C.

Yn ôl Mr Garlick "os yn ni'n dechrau'r berthynas fel yna does dim gobaith" wrth iddo alw am le i'r sector annibynnol ar fwrdd partneriaeth y darlledwyr.

Pwysleisiodd Gareth Williams o gwmni annibynnol Rondo bwysigrwydd chwilio am waith "tu hwnt i Gymru a thu hwnt i S4C" yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni.

Ymbiliodd John Geraint o Green Bay am gefnogaeth y cynulliad i sicrhau dyfodol darlledu yng Nghymru gan ddweud fod "angen i ni glywed eich llais".

Bu Rhodri Talfan Davies, Rheolwr BBC Cymru; Huw Jones Prif Weithredwr Awdurdod S4C; Phil Henfrey, Pennaeth Newyddion a Rhaglenni ITV Wales a Terry Mann o Radio Cymunedol Cymru hefyd ger bron y pwyllgor er mwyn cyfrannu at ei ymchwiliad i ddyfodol darlledu yng Nghymru.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

Copyright © 2015 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific