Page last updated at 10:49 GMT, Wednesday, 19 October 2011 11:49 UK

Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Bydd y don gyntaf o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ar y strydoedd erbyn y Nadolig, dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol Carl Sargeant wrth ACau ar 19 Hydref 2011.

Roedd Mr Sargeant yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar gyfer ei ymchwiliad i flaenoriaethau ei adran.

Bydd yr heddlu cyntaf yn cael eu hyfforddi gan Dyfed Powys a Gwent ar ddechrau mis Tachwedd ac fe ymrwymodd y gweinidog i gael y 500 swyddog yn eu lle erbyn Medi 2012.

Holodd Peter Black AC o'r Democratiaid Rhyddfrydol y gweinidog ynghylch amseriad y broses.

Roedd heddlu wedi dweud wrth y pwyllgor yn gynharach y tymor hwn eu bod yn rhwystredig gan eu bod nhw yn barod i roi swyddogion ar y strydoedd nawr.

Cyfyngiadau cyllideb sydd wrth wraidd yr amseriad yn ôl y gweinidog ac fe gytunodd i ysgrifennu at y pwyllgor gyda manylion ariannu'r prosiect.

Cafodd y Gweinidog Addysg Leighton Andrews ei holi gan aelodau'r pwyllgor ar ei ymdrechion i hybu'r Gymraeg y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.

Fe wnaeth ACau hefyd ofyn i'r Gweinidog Menter a Busnes Edwina Hart i hyrwyddo Cymru fel lleoliad ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd yn dilyn llwyddiant y tîm cenedlaethol yn y gystadleuaeth eleni.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

Aelodau'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific