Page last updated at 17:06 GMT, Tuesday, 4 October 2011 18:06 UK

Dadl ar ddatblygu cynaliadwyedd

Fe heriodd AC Plaid Cymru Simon Thomas y Gweinidog Amgylchedd i leisio ei farn ynghylch cynnig llywodraeth y DU i gynyddu'r cyfyngiad cyflymder o 70 i 80 milltir yr awr ar draffyrdd Cymru a Lloegr.

Ar 4 Hydref 2011, yn ystod y ddadl ar adroddiad 2010-2011 i ddatblygu cynaliadwyedd, bu Mr Thomas yn dadlau y byddai'r newid i'r gyfraith yn golygu cynnydd sylweddol i allyriadau carbon.

Cadarnhaodd John Griffiths AC ei fod yn rhannu ei ofidiau amgylcheddol ac fod ganddo hefyd bryderon ynghylch diogelwch wrth ganiatau i geir deithio'n gyflymach.

Bu'r AC Ceidwadol Russell George yn dadlau fod angen i Lywodraeth Cymru ddarparu gweledigaeth strategol well o sut caiff datblygu cynaliadwy ei wreiddio ar draws strategaethau, polisïau a chynlluniau unigol.

Yn ôl William Powell o'r Democratiaid Rhyddfrydol, mae'n rhaid i ddatblygu cynaliadwy gynnwys lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o ffynonellau domestig.

Fe alwodd AC Canolbarth a Gorllewin Cymru am gynnydd yn y cyllid cyfalaf sydd ar gael i fynd i'r afael â thlodi tanwydd gan y byddai "mwy a mwy o bobl yn dioddef" yn sgil y cynnydd ym mhris tanwydd.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific