Mae'n anorfod y bydd gwasanaethau rheng flaen yr heddlu yn cael eu heffeithio o ganlyniad i'r toriadau llym gan Adolygiad Gwariant Llywodraeth yn ôl y Cynghorydd Russell Roberts, Cadeirydd Awdurdodau Heddlu Cymru.
Roedd Mr Roberts yn cyflwyno tystiolaeth i'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar 5 Hydref 2011 fel rhan o'i ymchwiliad i ddiogelwch cymunedau yng Nghymru.
Gan fod 80% o gyllid yr awdurdodau yn cael ei wario ar heddweision a staff esboniodd Mr Roberts ei bod hi'n amhosib cynnal y gwasanaethau rheng flaen sy'n bodoli ar hyn o bryd.
Gan ddisgrifio'r arbedion fel "y sialens fwyaf erioed i wynebu'r heddlu", fe esboniodd Ian Arundale QPM, Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys fod y pedwar awdurdod yn sicr o gyflawni'r toriadau disgwyliedig o fewn yr amser sydd wedi ei neulltio.
Lleisiodd yr AC Llafur Ken Skates bryder ynghylch y "diffyg 'morale'" yn yr heddlu a'r pwysau fydd ar y gwasanaeth petai mwy o derfysgoedd yn ninasoedd Lloegr.
Cadarnhaodd y Prif Gwnstabl Arundale y byddai'n anodd iawn ac fod pryderon eisoes ynghylch heddlua Gemau Olympaidd 2012 gan fydd cynifer o heddweision wedi gadael y gwasanaeth erbyn hynny.
Yn rhoi tystiolaeth hefyd oedd cynrychiolwyr o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Swyddogion Diogelwch Cymunedol Cymru ac Undeb y GMB.
Darllenwch hwn yn Saesneg.
|
Aelodau'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
|
|
|
|
Bookmark with:
What are these?
E-mail this to a friend