Page last updated at 15:25 GMT, Tuesday, 29 March 2011 16:25 UK

Datganiad ar strwythur gwasanaethau addysg

Mae adroddiad ar strwythur y gwasanaethau addysg yng Nghymru yn danfon neges glir i'r system addysg hunanfodlon, yn ôl y gweinidog addysg ar 29 Mawrth 2011.

Dywedodd Leighton Andrews AC fod "yr adroddiad hwn yn danfon neges glir a dylem i gyd ei ystyried a meddwl agored".

Mae'r adroddiad yn dweud bod anghysondeb cyflawniad ar draws darparwyr addysg a bod cyflymder cyffredinol y gwelliant wedi bod yn rhy araf.

Mae'n dadlau bod yr achosion anghysondeb hyn i'w gweld mewn materion strwythurol, oherwydd diffyg eglurder o ran atebolrwydd ar gyfer perfformiad, cefnogaeth o ansawdd uchel, a herio gwybodus ar bob lefel.

Dywedodd Llefarydd Addysg y Democratiaid Rhyddfrydol Jenny Randerson AC, er gwaethaf yr angen am newid, "ni ddylai llywodraeth y cynulliad syrthio i'r fagl o ddarparu gormod o ganllawiau i ysgolion".

Tynnodd sylw at yr angen am gyngor strategol a bod athrawon yn cadw lefel benodol o reolaeth.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific