Page last updated at 16:35 GMT, Wednesday, 12 January 2011

Datganiad ar drawsblannu organau

Mae gweithdrefnau llywodraeth y cynulliad i ofyn am gymhwysedd deddfwriaethol wrth llywodraeth y DU ar y mater o drawsblannu organau wedi cael eu gohirio.

Wrth osod y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (LCO) ar drawsblannu organau gerbron y cynulliad ar 12 Ionawr 2011, dywedodd y Gweinidog Iechyd Edwina Hart AC wrth ACau bod llywodraeth y cynulliad eto i dderbyn cadarnhad gan brif gynghorydd cyfreithiol llywodraeth y DU os yw'n fater sydd wedi'i ddatganoli.

Cadarnhaodd Ms Hart fodd bynnag, y gall y Pwyllgor Materion Cymreig ddechrau ar y gwaith o graffu ar y LCO.

Pwrpas y gorchymyn yw cyflwyno system newydd o drawsblannu organau.

Byddai'r drefn o ganiatâd tybiedig yn golygu fod organau yn cael eu cymryd yn awtomatig - oni bai bod unigolion yn cofrestru nad dyma eu dymuniad neu fod eu perthnasau yn gwrthwynebu.

Cymru fyddai'r rhan gyntaf o'r DU i gyflwyno system ganiatâd tybiedig meddal petasai'r ddeddfwriaeth yn dod yn gyfraith.

Croesawodd Nick Ramsay AC, Llefarydd Iechyd y Wrthblaid, yr LCO ar ran ei blaid ond dywedodd "fod hyn yn fater o gydwybod" ar gyfer aelodau unigol y blaid.

Dywedodd Veronica German o'r Democratiaid Rhyddfrydol, fod ei phlaid yn cytuno â byrdwn y ddeddfwriaeth er mwyn manteisio ar sefyllfa lle mae 90% o bobl yn cytuno â'r syniad o roi organau ond dim ond 28% sydd ar y gofrestr rhoi organau ar hyn o bryd.

Roedd methiant y Twrnai Cyffredinol i wneud penderfyniad o ran cymhwysedd llywodraeth y cynulliad i ddeddfu yn y maes hwn wedi cythruddo nifer o ACau, gan gynnwys yr AC Plaid Cymru Dai Lloyd a gynigiodd yr LCO yn y lle cyntaf.

Yr oedd mewn "penbleth" am y penderfyniad ac yn cytuno gydag ACau eraill a ddywedodd bod y diffyg penderfyniad yn rhoi cefnogaeth i'r bleidlais Ie yn refferendwm datganoli mis Mawrth 2011.

Ar hyn o bryd tybir fod un person yng Nghymru yn marw bob 11 diwrnod wrth aros am aren.

Mae tua 300 o gleifion ar y rhestr aros am organau ar unrhyw adeg yng Nghymru.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific