Page last updated at 16:00 GMT, Wednesday, 8 December 2010

Cynnig i gymeradwyo cyllideb ddrafft comisiwn y cynulliad

Fe wnaeth ACau gymeradwyo cyllideb ddrafft comisiwn y cynulliad ar gyfer 2011/12 ar 8 Rhagfyr 2010.

Ar hyn o bryd, mae cyllideb y comisiwn o £46 miliwn yn cyfrif am 0.3% o'r arian mae'r cynulliad yn derbyn gan lywodraeth y DU.

Strategaeth y comisiwn ar gyfer y pedair blynedd nesaf yw sicrhau arbedion sydd o leiaf yn cyfateb i ganran y gostyngiad amcangyfrifedig yn yr arian sy'n dod o lywodraeth y DU dros yr un cyfnod.

Er gwaethaf hyn, bydd y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cynyddu gan fod gwariant y cynulliad mewn blwyddyn etholiad yn uwch i adlewyrchu'r costau sy'n gysylltiedig â ACau sydd heb gael eu hail-hethol neu'n sefyll i lawr.

Amcangyfrifir bydd cyfanswm y costau ar gyfer yr etholiad dros £3 miliwn.

Bydd costau gwirioneddol yr etholiad yn dibynnu ar amgylchiadau ACau newydd ac yn unigol ar lefel y newid yn aelodaeth y cynulliad.

Estynnodd William Graham AC, cynrychiolydd y Ceidwadwyr ar gomiswn y cynulliad, ei ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Cyllid am eu hargymhellion a'u cefnogaeth.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific