Sicrhaodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Edwina Hart AC y byddai gwasanaethau rheng flaen yn cael eu hamddiffyn er gwaethaf gostyngiad arfaethedig yn y gyllideb iechyd dros y blynyddoedd nesaf.
Fe wnaeth Ms Hart y cyhoeddiad yn ystod sesiwn cwestiynau ar ei hadran weinidogol ar 24 Tachwedd 2010.
Cyhoeddwyd ar 17 Tachwedd 2010 y bydd cyllideb iechyd llywodraeth y cynulliad yn cael ei dorri gan 7.6%.
Mewn ymateb i gwestiwn gan lefarydd iechyd Plaid Cymru Helen Mary Jones AC, sicrhaodd y gweinidog y byddai'r ddeddfwriaeth iechyd meddwl arfaethedig yn cael ei gyflwyno'n effeithiol er gwaethaf yr amgylchiadau economaidd anodd.
Ychwanegodd ei bod hi wedi sicrhau gwariant ar wasanaethau iechyd meddwl a bydd popeth yn cael ei wneud i wireddu'r ddeddfwriaeth.
Cododd y Ceidwadwr Jonathan Morgan AC bryderon am y 250 tunnell o feddyginiaethau sy'n cael eu gwastraffu bob blwyddyn yng Nghymru am gost o bron i £50 miliwn.
Byddai adolygiad o'r berthynas rhwng meddyg teulu a chleifion yn mynd gam o'r ffordd tuag at mynd i'r afael â'r mater, yn ôl y gweinidog.
Bu'r gweinidog hefyd yn ateb cwestiynau ar amrywiaeth o faterion, gan gynnwys amseroedd aros yn Ysbyty Athrofaol Cymru, darparu gwasanaethau deintyddol a thystiolaeth bod diweithdra yn effeithio ar iechyd.
Bookmark with:
What are these?
E-mail this to a friend