Page last updated at 14:55 GMT, Thursday, 8 July 2010 15:55 UK

Pwyllgor iechyd

Mae'r Prif Weindog Carwyn Jones wedi ymateb yn chwyrn i'r honiadau "nad oes un rhywbeth wedi ei wneud" i weithredu'r argymhellion i wella safon bwyd yng Nghymru, yn dilyn achosion o wenwyn bwyd E.coli yn 2005.

Roedd y prif weinidog yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol i drafod yr hyn mae'r llywodraeth yn ei gwneud i weithredu argymhellion adroddiad Pennington ar E.coli, ar 8 Gorffennaf 2010.

Fe gynhaliwyd yr ymchwiliad, dan gadeiryddiaeth yr Athro Hugh Pennington, yn dilyn achosion o wenwyn bwyd E.coli yn ne Cymru yn 2005.

Bu farw bachgen pump oed, Mason Jones, a bu dros 150 arall yn sâl oherwydd y gwenwyn bwyd.

Daeth yr ymchwiliad i'r casgliad bod angen mwy o adnoddau ar gyfer diogelwch bwyd a bod angen i gynhyrchwyr bwyd wneud mwy i reoli diogelwch bwyd.

Dywedodd Carwyn Jones ei fod yn "gwrthwynebu'n gryf" i honiad y Ceidwadwr Andrew R.T Davies nad oedd wedi gwneud gwaith digonol fel y gweinidog a'r prif gyfrifoldeb am y pwnc.

Mynnodd y prif weinidog fod y prif swyddog meddygol yn gynghorydd arbenigol iddo ef a'i fod yn gweithredu argymhellion yr adroddiad.

Fe wnaeth y Gweinidog Iechyd Edwina Hart hefyd fynychu'r cyfarfod er mwyn diweddaru'r aelodau ar argymhellion y pwyllgor ar ganiatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau.

Byddai trefn o ganiatâd tybiedig yn golygu fod organau yn cael eu cymryd yn awtomatig - oni bai bod unigolion yn cofrestru nad dyma eu dymuniad.

Bwriad hyn yw cynyddu'r nifer sy'n rhoi eu horganau ar ôl iddyn nhw farw.

Dywedodd y gweinidog bod yr ymgynghoriad wedi dangos bod cefnogaeth ymhlith y cyhoedd i ganiatâd tybiedig, ac y bydd yn cyflwyno Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar y pwnc.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

Aelodau'r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific