Page last updated at 17:04 GMT, Wednesday, 30 June 2010 18:04 UK

Dadl y Democratiaid Rhyddfrydol ar dollau pontydd Hafren

Galwodd y Democratiaid Rhyddfrydol ar lywodraeth y cynulliad i gynnal asesiad economaidd o effaith tollau pontydd Hafren ar economi de Cymru.

Yn ystod eu dadl ar 30 Mehefin 2010, fe wnaeth y blaid hefyd annog y llywodraeth i gynnal trafodaethau pellach gyda llywodraeth y DU am "effaith negyddol" y tollau.

Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol fe ddylai llywodraeth y cynulliad fynd ati i baratoi'r achos o blaid cael gwared â'r tollau pan ddaw'r pontydd dan berchnogaeth gyhoeddus.

Dywedodd Mr German: "Os yw'r asesiad yn dangos bod 'na niwed i economi De Cymru, fe ddylai tollau pont Hafren gael eu rhewi".

Caiff pont Hafren ei rheoli gan gwmni preifat ac fe fydd yn dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus ar ôl i'r cwmni gasglu swm penodol o'r tollau ac fe amcangyfrifir y bydd hyn yn 2017.

Dywedodd y llywodraeth ei bod eisoes yn cynnal trafodaethau rheolaidd â llywodraeth y DU ynghylch pontydd Hafren a bydd yn parhau i drafod â hwy ynghylch rheolaeth y pontydd a'u perchnogaeth yn y dyfodol.

Fe wnaeth hefyd alw ar y cynulliad i groesawu'r mesurau i ganiatáu defnyddio cerdyn i dalu'r tollau gan bwysleisio ei bod yn annog llywodraeth y DU i wneud hyn cyn y Cwpan Ryder.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

Copyright © 2019 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific