Page last updated at 15:58 GMT, Wednesday, 5 May 2010 16:58 UK

Dadl y Democratiaid Rhyddfrydol

Fe wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol alw ar Lywodraeth y Cynulliad i wneud mwy i helpu'r 192,000 o blant yng Nghymru sy'n byw mewn tlodi.

Roedd y blaid yn arwain y ddadl ar dlodi plant ar 5 Mai 2010.

Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol mae na gyswllt cryf rhwng "economi gwan cymru a'r lefelau tlodi plant".

Roedd y Ceidwadwyr hefyd yn feirniadol o'r llywodraeth, ac yn honni bod gan Gymru'r "lefelau tlodi plant uchaf ymysg gwledydd y DU".

Yng Nghymru, mae 32% o blant yn wynebu byw mewn cartref sydd â llai na 60% o incwm cyfartalog y DU.

Yn ôl llywodraeth y cynulliad mae'r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud i leihau tlodi plant megis Dechrau'n Deg, Genesis Cymru a Chronfa Ymddiriedolaeth Plant Cymru.

Bwriad llywodraeth y cynulliad yw gwaredu tlodi plant erbyn 2020.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

Copyright © 2015 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific