Fe wnaeth y Gweinidog Addysg Leighton Andrews ddatganiad ar strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg y llywodraeth ar 20 Ebrill 2010.
Fe gyhoeddwyd strategaeth y llywodraeth i ddatblygu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ym mis Mai 2009.
Yn ôl y llywodraeth, mae'r ddarpariaeth bresennol yn "dameidiog ac anghyson".
O dan y strategaeth fe fydd disgwyl i gynghorau ymchwilio'n fanwl i'r galw am addysg Gymraeg ymhlith rhieni.
Yna fe fydd rhaid i gynghorau gynllunio'n fanwl ar sail y wybodaeth honno er mwyn dangos eu bod nhw'n gallu darparu digon o lefydd priodol i blant.
Mae'r strategaeth yn gosod cyfres o dargedau:
- 25% o blant saith oed i gael addysg Gymraeg
- nifer o blant sy'n sefyll arholiadau TGAU drwy'r Gymraeg yn codi i 13%
- cynnydd mewn staff ac athrawon cymwys i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg
- gwella darpariaeth Gymraeg mewn colegau
- darparu mwy o gyfleon i bobl ifanc a theuluoedd i siarad Cymraeg y tu allan i'r ysgol.
Bookmark with:
What are these?
E-mail this to a friend