Page last updated at 14:42 GMT, Friday, 30 October 2009
Pwyllgorau

Mae pwyllgorau'r cynulliad yn gyfarfodydd trawsbleidiol sy'n trin a thrafod amryw o faterion a deddfwriaethau sydd wedi'u datganoli.

Yn y bôn gwaith aelodau'r pwyllgor yw craffu, pwyso a mesur gwaith Llywodraeth y Cynulliad.

Mae yna ddeuddeg pwyllgor pwnc sy'n ystyried pynciau penodol o blant a phobl ifanc i faterion gwledig ac mae yna bum pwyllgor deddfwriaeth sy'n craffu'n ar fesurau penodol neu LCOs sef ceisiadau am rym o San Steffan.

Pwyllgor sydd wedi cael ei greu'n ddiweddar yw'r pwyllgor deisebau sy'n ymdrin â deisebau gan y cyhoedd.

Mae modd i unrhyw un o'r cyhoedd fynd at wefan y cynulliad a dechrau deiseb eu hunain.

Mae'r pwyllgor busnes yn gwneud trefniadau ar gyfer busnes y Cynulliad.

Mae arweinydd y tŷ a rheolwr busnes o bob plaid yn mynychu'r cyfarfodydd sy'n cael eu cadeirio gan y llywydd.




More from BBC Democracy Live
Compare who does what across the UK and Europe
Our A-Z of words used in the business of politics
Discover what BBC Democracy Live has to offer you

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific