Page last updated at 14:41 GMT, Friday, 30 October 2009
Deisebau

Mae deiseb yn fodd i'r cyhoedd ofyn i'r Cynulliad ystyried mater neu broblem benodol sydd o fewn pwerau'r cynulliad.

Mae'n bosib gyrru deiseb drwy'r post neu drwy wefan y cynulliad.

Y Llywydd sy'n penderfynu os yw deiseb yn dderbyniadwy, ac mae'n rhaid i'r cynulliad ystyried unrhyw ddeiseb dderbyniadwy.

Er mwyn gwneud hyn mae'r cynulliad wedi sefydlu pwyllgor deisebau.

Mae'r pwyllgor deisebau yn cyfarfod unwaith bob pythefnos er mwyn ystyried deisebau a phenderfynu pa gamau y dylid eu cymryd.

Mae'r pwyllgor yn gallu gofyn am dystiolaeth bellach gan ddeisebwyr, gweinidogion neu sefydliadau perthnasol eraill.

Maent hefyd yn gallu cyfeirio'r ddeiseb ymlaen i bwyllgor neu weinidog er mwyn cymryd camau pellach.




More from BBC Democracy Live
Compare who does what across the UK and Europe
Our A-Z of words used in the business of politics
Discover what BBC Democracy Live has to offer you

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific