Page last updated at 10:16 GMT, Friday, 18 September 2009 11:16 UK
Fformiwla Barnett

Fformiwla Barnett yw'r fformiwla sy'n cael ei ddefnyddio i benderfynu faint o arian sy'n cael ei ddyrannu gan Lywodraeth y DU i'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.

Mae'r arian yn cael ei rannu rhwng Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar sail eu poblogaeth yn hytrach nag anghenion economaidd.

Cafodd y fformiwla ei dyfeisio gan y cyn Brif Ysgrifennydd i'r Trysorlus, yr Arglwydd Barnett, yn wreiddiol ar gyfer yr Alban yn 1978.

Roedd hwn i fod yn fesur dros dro er mwyn darparu atebion byrdymor i ddadleuon bychain y Cabinet yn ystod y paratoadau ar gyfer datganoli ym 1979.

Mae'r fformiwla wedi cael ei ddefnyddio yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ers 1979 ac yng Nghymru ers 1980.

Yn gyffredinol, mae'r fformiwla yn golygu bod y gwariant fesul y pen ym mhob gwlad sydd wedi'i datganoli, yn uwch na Lloegr.

Fe gyhoeddodd Pwyllgor Dethol Tŷ'r Arglwyddi adroddiad yn ddiweddar yn argymell bod angen fformiwla newydd sy'n ystyried anghenion economaidd y gwahanol rannau o Brydain.

Fe roddodd yr Arglwydd Barnett dystiolaeth i'r pwyllgor gan alw am gael gwared ar y fformiwla.




More from BBC Democracy Live
Compare who does what across the UK and Europe
Our A-Z of words used in the business of politics
Discover what BBC Democracy Live has to offer you

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific