Page last updated at 09:19 GMT, Friday, 18 September 2009 10:19 UK
Siambr

Y siambr yw'r ystafell ble mae'r sesiynau llawn yn cael eu cynnal.

Canolbwynt y Senedd yw'r siambr gron ble mae'r ACau yn ymgynnull ar gyfer sesiynau llawn.

Cafodd ei gynllunio i sicrhau bod modd i'r 60 aelod weld ei gilydd, gyda'r nod o wneud y broses ddemocrataidd yn fwy agored a chynhwysol ac yn llai cecrus.

Wrth dynnu waliau dros dro i lawr mae modd i'r siambr gynnwys hyd at 80 o ACau yn y dyfodol.

Mae'r desgiau pren sydd wedi cael eu saernïo o dderwen Gymreig yn unigryw i'r siambr. Maent hefyd yn cynnwys cyfrifiaduron yr ACau ac offer pleidleisio electronig.

Uwchben mae'r oriel gyhoeddus, sy'n edrych i lawr ar y siambr ac sydd wedi cael ei gwahanu gan wydr diogelwch.

Mae lle i 128 o bobl, ar ddwy res o seddi, yn yr oriel gyhoeddus.

O flaen desg y Llywydd mae'r prysgyll seremonïol. Cafodd ei gomisiynu gan Senedd De Cymru Newydd, Awstralia yn 2002 ac fe'i rhoddwyd i'r Cynulliad yn ystod agoriad swyddogol y Senedd.




More from BBC Democracy Live
Compare who does what across the UK and Europe
Our A-Z of words used in the business of politics
Discover what BBC Democracy Live has to offer you

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific