Page last updated at 09:26 GMT, Friday, 18 September 2009 10:26 UK
Swyddfa Cymru

Un o adrannau llywodraeth y DU yw Swyddfa Cymru sydd â chyfrifoldeb dros bopeth sy'n effeithio ar Gymru sydd heb ei ddatganoli i'r Cynulliad.

Mae hefyd yn cynrychioli buddiannau Cymru yn llywodraeth y DU.

Cafodd Swyddfa Cymru ei sefydlu yn lle'r hen Swyddfa Gymreig a oedd gan fwy o gyfrifoldeb dros Gymru.

Sefydlwyd y Swyddfa Gymreig yn Ebrill 1965 er mwyn gweithredu polisïau Llywodraeth Prydain yng Nghymru, ond cafodd ei diddymu ar Orffennaf 1, 1999 pan drosglwyddwyd mwyafrif ei chyfrifoldebau i'r Cynulliad.

Mae gan Swyddfa Cymru gryn dipyn yn llai o rymoedd: yn bennaf mae'n gyfrifol am weithredu'r ychydig gyfrifoldebau sydd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru nas trosglwyddwyd yn barod i'r Cynulliad; mae hefyd yn sicrhau cyllid i Gymru fel rhan o setliad y gyllideb flynyddol.

Yn ogystal â gweithredu fel llais Cymru yn San Steffan a llais San Steffan yng Nghymru, mae Swyddfa Cymru yn gyfrifol am sicrhau bod deddfwriaeth Cymru yn mynd trwy'r Senedd yn ddidrafferth.

Yn dilyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006, mae'r Ysgrifennydd Gwladol hefyd yn gofalu bod

hefyd yn mynd trwy'r Senedd yn ddidrafferth.

Mae Swyddfa Cymru yn Nhy Gwydyr yn Whitehall, Llundain ac yn Discovery House ym Mae Caerdydd.




More from BBC Democracy Live
Compare who does what across the UK and Europe
Our A-Z of words used in the business of politics
Discover what BBC Democracy Live has to offer you

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific