|
BUSNES A'R ECONOMI
Mae gan Lywodraeth y Cynulliad reolaeth dros rai agweddau o ddatblygu economaidd yng Nghymru. Maen nhw'n gallu cefnogi busnesau trwy hyrwyddo buddsoddiad yng Nghymru, gwella seilwaith a hwyluso allforion. Er mai San Steffan sy'n pennu faint o arian mae'r Cynulliad yn ei gael, y Cynulliad sy'n penderfynu sut i ddyrannu'r arian yn unol â'u blaenoriaethau gwario yn y meysydd datganoledig. Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, rhan o'r adran Economi a Thrafnidiaeth, sy'n dyrannu Ariannu Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd.
DIWYLLIANT, GWYDDONIAETH A CHWARAEON
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn gyfrifol am gyllido'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth Cymru a'r iaith Gymraeg. Mae'n gwneud hyn trwy nifer o gwangos fel Cyngor Celfyddydau Cymru. Bwrdd yr Iaith Gymraeg sy'n gyfrifol am y gwaith o hyrwyddo'r iaith Gymraeg. San Steffan sy'n gyfrifol am y polisi gwyddoniaeth, heblaw pan fo'n ymwneud yn uniongyrchol â sefydliadau addysg, oherwydd bod ysgolion a phrifysgolion wedi'u datganoli. Mae'r llywodraeth wedi cyflwyno cynllun nofio am ddim i blant dan 16 oed yn ystod gwyliau'r ysgol ac i bobl hŷn dros 60 y tu allan i wyliau'r ysgol.
AMDDIFFYN A MATERION TRAMOR
Nid yw polisïau amddiffyn a materion rhyngwladol wedi'u datganoli.
ADDYSG
Llywodraeth y Cynulliad sy'n gyfrifol am addysg a hyfforddiant yng Nghymru, gan osod lefel ffioedd dysgu mewn prifysgolion, llywodraethu ysgolion a chyllido - gan gynnwys buddsoddi mewn adeiladau ysgolion a thechnoleg gwybodaeth. Mae hefyd yn penderfynu faint o'r Gymraeg mae'n rhaid i ddisgyblion ei ddysgu. Ond dyw'r Cynulliad ddim yn rheoli'r broses o recriwtio athrawon na'r penderfyniadau ar dâl athrawon. San Steffan sy'n gyfrifol am y polisi ar fenthyciadau i fyfyrwyr.
AMGYLCHEDD
Llywodraeth y Cynulliad sy'n gyfrifol am bolisïau newid hinsawdd, egni a rheoli llygredd dŵr ac aer (ac eithrio allyriadau ceir) Mae'n dyrannu grantiau er mwyn gwella effeithlonrwydd egni domestig a lleihau tlodi tanwydd. Mae'r llywodraeth hefyd yn gyfrifol am strategaethau atal llifogydd a rheoli gwastraff.
FFERMIO A PHYSGODFEYDD
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn ceisio cefnogi cymunedau gwledig trwy hyrwyddo allforion bwyd o Gymru a chynnig cymorth ariannol i ffermwyr (gan gynnwys taliadau o Bolisi Amaeth Cyffredin yr UE) Mae hefyd yn rheoli fforestydd, iechyd a lles anifeiliaid, diogelu bywyd gwyllt, cyflwr lladd-dai, y defnydd o blaladdwyr a rheoli porthladdoedd pysgota (ond nid porthladdoedd ar gyfer unrhyw ddefnydd arall)
IECHYD
Mae gan Gymru rymoedd helaeth dros y system iechyd yng Nghymru. Llywodraeth y Cynulliad sy'n gyfrifol am faint o fuddsoddiad preifat sy'n mynd tuag at ysbytai'r NHS yng Nghymru, gwasanaethau ar gyfer pobol â salwch meddwl a diogelwch bwyd. Mae hefyd yn trafod tâl nyrsys, doctoriaid a deintyddion sy'n gweithio i'r NHS. Mae'r llywodraeth bresennol wedi cael gwared a'r tâl am bresgripsiynau yng Nghymru. Mae'r llywodraeth hefyd yn gyfrifol am reoli gwaith yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
TAI A CHYNLLUNIO
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn gyfrifol am bob agwedd o bolisïau cynllunio, gan gynnwys canllawiau statudol i awdurdodau lleol; penderfyniadau ar ddadleuon cynllunio a rheoleiddio landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Mae hefyd yn dyrannu adnoddau tai i awdurdodau lleol ac i gymdeithasau tai yng Nghymru ac yn cadw golwg dros eu gwaith. Mae'r Cynulliad hefyd yn gyfrifol am strategaethau adfywio, polisïau i leihau digartrefedd a gwaith yr Arolygiaeth Gynllunio yng Nghymru. Mae'r penderfyniadau dros ganiatâd cynllunio i orsafoedd pŵer wedi cael eu datganoli i Gymru - ond dim ond os yw'r orsaf yn llai na 50 megawatt.
CYFIAWNDER A MATERION CARTREF
Heb ei ddatganoli
LLYWODRAETH LEOL
Mae gan Lywodraeth y Cynulliad yr un grymoedd dros awdurdodau lleol yng Nghymru â San Steffan yn Lloegr. Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi cap ar dreth cyngor a chynnig rhyddhad ardrethi. Mae hefyd yn rheoli'r gyfundrefn arolygu ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau mabwysiadu a maethu yng Nghymru.
NAWDD CYMDEITHASOL
San Steffan sy'n gosod y lefelau ar gyfer budd-daliadau a chredydau treth yng Nghymru
TRAFNIDIAETH
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn gallu deddfu ar rai agweddau o bolisi trafnidiaeth e.e. Strategaethau diogelwch ffyrdd megis terfynau cyflymder, rheoli croesfannau i gerddwyr a gwaith cynnal a chadw ar hyd cefnffyrdd a thraffyrdd Cymru - ond nid ffyrdd llai, sy'n cael eu cynnal gan awdurdodau lleol, neu rannau o Ail Groesfan Hafren, sydd heb eu datganoli. Maent yn gyfrifol am Fasnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau a'r buddsoddiad yn y seilwaith rheilffyrdd, ond nid rheoliadau rheilffyrdd na diogelwch. Maen nhw hefyd yn cadw golwg ar ddarpariaeth gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus fel bysiau.
|
Bookmark with:
What are these?