Y Cynulliad

Advertisement

Darllediad byw o'r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc.

Mae'r pwyllgor yn casglu tystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad dilynol i rianta yng Nghymru a rhoi'r cynllun gweithredu rhianta ar waith.

Cyhoeddodd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ei adroddiad ar rianta yng Nghymru a rhoi'r cynllun gweithredu rhianta ar waith ym mis Mai 2009.

Gwnaeth y pwyllgor 11 argymhelliad sydd wedi cael eu derbyn, naill ai yn llawn neu mewn egwyddor, gan lywodraeth y cynulliad.

Mae'r argymhellion yn cynnwys penodi arbenigwr rhianta cenedlaethol a rhoi cyfeiriad a chyngor i awdurdodau lleol ac ysgolion ar sut i gael rhieni i ymwneud yn fwy ag ysgolion.

Ym mis Awst eleni fe wnaeth y pwyllgor wahodd tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig pellach wrth sefydliadau sy'n datblygu rhianta yng Nghymru a bydd eu sylwadau yn cael eu trafod yn ystod y pwyllgor.

Mae'r Dirprwy Weinidog Plant, Huw Lewis yn cyflwyno tystiolaeth yn ogystal â Martin Swain Pennaeth Rhaglenni Plant a Theuluoedd a Huw Maguire, Pennaeth y Gangen Cymorth Deuluol.

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific