Page last updated at 13:05 GMT, Saturday, 31 October 2009
Canllaw i Gynulliad Cenedlaethol Cymru



Advertisement

Cyflwyniad i'r Cynulliad

Ar 18 Medi 1997 fe bleidleisiodd etholwyr Cymru mewn refferendwm ar ddatganoli.

Yn dilyn noson ddramatig, y bleidlais IE enillodd y dydd, ond o drwch blewyn yn unig - 50.3% i 49.7%

Yn ôl Ron Davies, sef Ysgrifennydd Cymru ar y pryd roedd hyn yn wawr newydd.

Arweiniodd y refferendwm at sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ond mater arall oedd perswadio'r rheini a bleidleisiodd yn ei erbyn, a'r bobl na bleidleisiodd o gwbl, bod hyn o fudd i Gymru gyfan.

Ond fel y dywedodd Ron Davies eto "proses yw datganoli, nid digwyddiad".

Grymoedd newydd

A dyna'n union ddigwyddodd. Fe gafodd y Cynulliad ei sefydlu gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, ond ni chafodd y grym i greu ei ddeddfau ei hunan tan yr ail ddeddf yn 2006.

Ond roedd dal angen sêl bendith Aelodau Seneddol i ddeddfu mewn rhai meysydd.

Fe wnaeth hyn arwain at ddigon o gecru rhwng Bae Caerdydd a San Steffan ynglŷn â man fanylion ceisiadau penodol i ddeddfu, e.e. roedd yr iaith Gymraeg a thai fforddiadwy yn feysydd a wnaeth achosi tipyn o densiwn y ddau ben i'r M4.

Cyflwynwyd system ddeddfwriaethol newydd yng Nghymru ar ddechrau'r pedwerydd Cynulliad ym mis Mai 2011.

Pleidleisiodd Cymru mewn refferendwm ar 3 Mawrth 2011, dros roi mwy o bwerau i'r Cynulliad er mwyn pasio deddfau ar faterion wedi eu datganoli heb angen gofyn am ganiatâd San Steffan.

Mae'r Cynulliad yn ymfalchïo mewn math newydd o wleidyddiaeth.

Er bod pethau yn poethi yn aml yn y siambr, mae'r gweiddi a'r cecru sy'n fwy nodweddiadol o Dŷ'r Cyffredin yn cael ei gyfyngu.

Mae'r Senedd - sydd wedi'i leoli yn hen ardal Tiger Bay, yn gartref i 60 o wleidyddion mwyaf blaenllaw Cymru.

Mae modd i chi eu dilyn nhw - Aelodau'r Cynulliad, yma ar wefan Democratiaeth Fyw.


FFEITHIAU ALLWEDDOL


  • 60 Aelod Cynulliad - 40 AC etholaethol ac 20 AC rhanbarthol
  • Mae'r Siambr a'r ystafelloedd Pwyllgor wedi eu lleoli yn y Senedd
  • Mae yna 12 pwyllgor 'pwnc' sy'n trafod materion o gynaliadweydd i iechyd

  • Ers 2011 mae Llafur mewn llywodraeth

  • Mae'r Sesiynau Llawn yn cael eu cynnal ddwywaith yr wythnos ar bnawn dydd Mawrth a dydd Mercher




  • Fe gafodd y Senedd ei agor yn swyddogol gan y Frenhines ar Ddydd Gwyl Dewi, 1 Mawrth 2006

  • Mae yna 5 pwyllgor deddfwriaeth sy'n craffu ar fesurau a cheisiadau am ragor o rym
  • Fe gafodd adeilad y Senedd ei ddylunio gan y pensaer byd enwog yr Arglwydd Richard, sydd hefyd wedi dylunio Canolfan y Pomidou ym Mharis a Dôm y Mileniwm yn Llundain





SEE ALSO
Introduction
31 May 11 |  Institution guides

More from BBC Democracy Live
Compare who does what across the UK and Europe
Our A-Z of words used in the business of politics
Discover what BBC Democracy Live has to offer you

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific