Page last updated at 17:03 GMT, Wednesday, 28 October 2009
Canllaw i Gynulliad Cenedlaethol Cymru



Roedd y bleidlais Ie yn y refferendwm ar bwerau deddfu llawn yn drobwynt yn hanes y Cynulliad.

Arweiniodd at system ddeddfwriaethol newydd o bwerau deddfu cynradd uniongyrchol ni welir yng Nghymru ers dyddiau Hywel Dda yn y degfed ganrif.

Ers ddechrau'r pedwerydd Cynulliad, nid oes angen caniatad San Steffan i ddeddfu ar faterion datganoledig dim mwy.

Ar 3 Mawrth 2011, penderfynodd pleidleiswyr yng Nghymru o 63.5% i 36.5% i ddod â'r hen system o ddeddfu i derfyn.

Roedd y refferendwm yn rhan o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac mae'n rhoi pwerau deddfu tebyg i rai'r Alban a Gogledd yr Iwerddon i Gymru.

Pleidleisiodd Aelodau Cynulliad yn unfrydol dros yr ymrwymiad, a oedd yn rhan o gytundeb clymblaid Llafur-Plaid Cymru ar y pryd, yn Chwefror 2010.

Gwelir cynnydd sylweddol ym mhwerau'r Cynulliad pan basiwyd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 wrth iddo etifeddu pwerau a chyllideb Ysgrifennydd Gwladol Cymru a rhan fwyaf o swyddogaethau'r hen Swyddfa Gymreig.

Cerddwyr yn Eryri
Mae'r Cynulliad yn deddfu mewn meysydd fel twristiaeth

Yn ogystal â rhoi'r hawl newydd i ddeddfu fe wnaeth y Ddeddf wahanu'r gangen ddeddfwriaethol oddi wrth y gangen weithredol.

Yn syml mae hyn yn golygu bod Llywodraeth y Cynulliad yn gyfrifol am redeg y wlad o ddydd i ddydd, tra bod y Cynulliad Cenedlaethol, sef y 60 aelod, yn craffu ar waith y llywodraeth.

Pan gafodd grym ei ddatganoli i Gymru am y tro cyntaf yn 1999, dim ond y pŵer i basio is-ddeddfwriaeth mewn meysydd datganoledig oedd gan y Cynulliad.

Yn hanfodol doedd ganddo mo'r grym i lunio ei ddeddfau ei hun.

Newidiodd y sefyllfa yn 2006 pan basiwyd Deddf Llywodraeth Cymru, gan roi'r grym i'r Cynulliad greu ei ddeddfau ei hun o fewn 20 maes pendodol.

Meysydd datganoledig
addysg a hyfforddiant
amaethyddiaeth, pysgodfeydd, coedwigaeth a datblygiad gwledig
amddiffyn dwr a llifogydd
bwyd
chwaraeon ag adloniant
cofadeiladau hynafol ac adeiladau hanesyddol
cynllunio trefi a gwledig
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
datblygiad economaidd
diwylliant
gwasanaethau a diogelwch tân
gweinyddiaeth cyhoeddus
iechyd a gwasanaethau iechyd
lles cymdeithasol
llywodraeth leol
priffyrdd a thrafnidiaeth
tai
twristiaeth
yr amgylchedd
yr iaith Gymraeg

Yn ychwanegol, gyda chaniatâd San Steffan, roedd hi'n bosib datganoli rhagor o rymoedd o fewn y meysydd hyn.

Rhoddir y gorau i'r system hyn o ddeddfu yn dilyn y refferendwm ar bwerau deddfu llawn.

Mae'r Cynulliad nawr yn gallu pasio Deddfau'r Cynulliad ar feysydd datganoledig heb yr angen am gydsyniad blaenorol.

Fel y gwelwch o'r rhestr uchod, mae nifer o feysydd polisi yn dal yn gyfrifoldeb i lywodraeth Prydain, gan gynnwys materion cyfansoddiadol, amddiffyn a materion tramor.

Nid yw'r Cynulliad felly yn gallu creu Gŵyl y Banc ar Ddydd Gŵyl Dewi na chyfreithloni hela llwynogod, er enghraifft.

Er hynny, mae'r llywodraeth ym Mae Caerdydd wedi mabwysiadu cyfres o fesurau er mwyn gosod "dwr coch clir" - i ddyfynnu'r cyn-Brif Weinidog Rhodri Morgan - rhwng Cymru a gweddill Prydain/Lloegr.

Mae Lloegr wedi dilyn esiampl Cymru trwy gynnig mynediad am ddim i amgueddfeydd ac orielau, tra bod polisïau eraill fel teithio ar fws am ddim i bensiynwyr a chael gwared a'r tâl am bresgripsiwn , yn unigryw i Gymru.




SEE ALSO
Powers
31 May 11 |  Institution guides

More from BBC Democracy Live
Compare who does what across the UK and Europe
Our A-Z of words used in the business of politics
Discover what BBC Democracy Live has to offer you

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific