Page last updated at 17:02 GMT, Wednesday, 28 October 2009
Canllaw i Gynulliad Cenedlaethol Cymru



Datblygiad diweddar, yw gallu'r Cynulliad i lunio ei ddeddfau ei hun.

Yn ystod wyth mlynedd gyntaf y Cynulliad roedd y rhan fwyaf o'r grym dros Gymru dal yn bodoli yn San Steffan.

Ond yn dilyn etholiad y Cynulliad yn 2007, fe wnaeth Deddf Llywodraeth Cymru 2006 esgor ar gyfnod newydd yn hanes datganoli yng Nghymru.

Er bod y Cynulliad yn gyfrifol am yr un meysydd polisi ag o'r blaen - er enghraifft iechyd, addysg, datblygu economaidd ac ati - mae Deddf 2006 yn galluogi'r Cynulliad i lunio deddfau ar faterion penodol yn y meysydd hynny.

Ond os oedd y Cynulliad eisiau llunio deddfau ar faterion eraill o fewn y meysydd yma roedd rhaid cael caniatâd y ddau dŷ yn San Steffan.

Roedd y Cynulliad yn gwneud cais am y pwerau hyn gan San Steffan drwy Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (neu LCO).

Beirniadir y broses o fod yn gymhleth a thrafferthus.

Arweiniodd hyn at gryn dipyn o densiwn rhwng Bae Caerdydd a San Steffan ar brydiau.

Fe wnaeth y rhan fwyaf o bleidleiswyr yng Nghymru benderfynu mewn refferendwm ar 3 Mawrth 2011, y dylai pwerau deddfu mewn meysydd wedi eu datganoli cael eu trosglwyddo i Fae Caerdydd, gan wneud i ffwrdd â'r angen i ofyn am ganiatâd wrth San Steffan.

Rhoddir y gorau i'r system LCO ar ddechrau'r pedwerydd Cynulliad.

Mae'r system newydd yn rhoi pwerau deddfu tebyg i rai Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon i Gymru.

BILIAU A DEDDFAU

Dan y system ddeddfwriaethol newydd, gelwir deddfau Cymreig ar faterion datganoledig a amlinellir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 yn Ddeddfau Cymreig.

Mae Bil yn gyfraith arfaethedig gall gael ei gynnig gan Lywodraeth y Cynulliad, Pwyllgor Cynulliad, AC unigol neu Gomisiwn y Cynulliad.

Yn gyffredinol, mae pedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Bil, sef:

Cyfnod 1 - pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny;

Cyfnod 2 - pwyllgor yn ystyried y Bil ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i'r Bil hwnnw yn fanwl;

Cyfnod 3 - y Cynulliad yn ystyried y Bil ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i'r Bil hwnnw yn fanwl;

Cyfnod 4 - pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Bil.

Unwaith mae Bil wedi'i basio gan y Cynulliad a chael Cydsyniad Brenhinol, mae'n dod yn Ddeddf y Cynulliad.

Mae cyfnod diwygio ychwanegol dewisol, a elwir yn gyfnod adrodd, y gellir ei gynnwys rhwng cyfnodau 3 a 4, os bydd yr AC sy'n gyfrifol yn cynnig hynny a bod y Cynulliad yn ei gymeradwyo.

O dro i dro, bydd y Llywydd yn cynnal balot i benderfynu ar enw AC a gaiff gyflwyno ei Fil ei hun, gyda chytundeb y Cynulliad.




SEE ALSO
How laws are made
31 May 11 |  Institution guides

More from BBC Democracy Live
Compare who does what across the UK and Europe
Our A-Z of words used in the business of politics
Discover what BBC Democracy Live has to offer you

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific