|
Credir fod cwch modur oedd wedi ei adael ar ochr ffordd yng Ngwynedd wedi cael ei roi ar dân yn fwriadol. Cafodd diffoddwyr eu galw i Langian ger Abersoch ar Ben Llŷn. Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru iddynt dderbyn galwad am 4am ddydd Sul. Ni chafodd unrhyw un ei anafu.
|
Bookmark with:
What are these?