| You are in: UK: Wales | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
![]()
|
Thursday, 13 January, 2000, 17:13 GMT
Ail gwmni o China i fuddsoddi yng Nghymru
Mae cwmni arall o China wedi sefydlu ffatri esgidiau yn Sir Benfro gan greu 150 o swyddi. Dyma'r ail fuddsoddiad cynhyrchu gan Chinay tu allan i'w ffiniau - ac mae'r ddau yn Sir Benfro. Sefydlwyd y ffatri gyntaf - Leaveland Shoes - yn Noc Penfro ychydig dros flwyddyn yn ôl ac mae'n cyflogi 150 o bobl. Mae'r ail gwmni'n sefydlu yn Aberdaugleddau. Cyflogau Er bod cyflogau'n llawer is yn China - mae sefydlu yng Nghymru yn eu galluogi i fanteisio ar farchnadoedd Ewropeaidd. Cefnogwyd y buddsoddiad cyntaf gan y Swyddfa Gymreig - y Cynulliad Cenedlaethol erbyn hyn - dan Gynllun Cefnogaeth Rhanbarthol. Ar y pryd, dywedodd Alun Michael fod yn rhaid cyfuno twristiaeth, sydd yn rhan bwysig o economi Penfro, gyda gweithgaredd masnachol ehangach. Gobeithiai hefyd y byddai penderfyniad Leaveland yn arwain at gydweithio llwyddiannus pellach fel y byddai nifer o gwmnïau eraill yn symud i'r ardal. |
Links to other Wales stories are at the foot of the page.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Links to more Wales stories
|
|
|
^^ Back to top News Front Page | World | UK | UK Politics | Business | Sci/Tech | Health | Education | Entertainment | Talking Point | In Depth | AudioVideo ---------------------------------------------------------------------------------- To BBC Sport>> | To BBC Weather>> ---------------------------------------------------------------------------------- © MMIII | News Sources | Privacy |
|