| You are in: Europe | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Friday, 28 March, 2003, 16:27 GMT
Saddam 'yn dal i arteithio ei bobol'
Mae'r Cwrdiaid yn dal i gael eu harteithio yng ngogledd Irac medd Indict
Dyna oedd byrdwn cynhadledd newyddion yn San Steffan fore Gwener gan y mudiad Indict, dan gadeiryddiaeth aelod seneddol Cwm Cynon Ann Clwyd.
Pwrpas Indict yw i hel tystiolaeth yn erbyn Saddam Hussein er mwyn dwyn achos cyfreithiol yn ei erbyn am ladd a phoenydio pobol fel y Cwrdiaid yn y gogledd a'r Shiaid yn y de. Mae'r camdrin yn dal i fynd ymlaen, meddai Indict, ond does dim gobaith gweithredu'n gyfreithiol tra bo'r rhyfel ymlaen. Ond mae cadeirydd Indict Ann Clwyd yn cefnogi penderfyniad Tony Blair i geisio disodli Saddam trwy ddulliau milwrol Mae Plaid Cymru wedi annog Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig Kofi Annan i drefnu cadoediad er mwyn cael bwyd, dwr a ffisig i bobol Basra yn ogystal â help i bobol mewn trefi eraill sydd wedi cael eu bomio Beirniadu Cafodd Ann Clwyd ei beirniadu'n hallt gan rai sy'n anghytuno gyda'i safiad ar y rhyfel. Ond mae hi'n ddiedifar ac yn herio'r rhai sy'n ei beirniadu Mae'r pryder ynglın â thynged pobol gyffredin Irac yn cynyddu gan fod Saddam a'i luoedd yn dal i ormesu a bod pobol eraill mewn gwir beryg o farw o newyn neu o syched. Un agwedd o'r ymgyrch ydi gweithredu milwrol.
|
Top Europe stories now:
Links to more Europe stories are at the foot of the page.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Links to more Europe stories |
![]() |
||
| ----------------------------------------------------------------------------------
To BBC Sport>> | To BBC Weather>> | To BBC World Service>> ---------------------------------------------------------------------------------- © MMIII | News Sources | Privacy |