| You are in: UK | ||||||||||||||||||||||
|
Thursday, 9 August, 2001, 14:46 GMT 15:46 UK
Tri achos arall o'r clwy ar Y Bannau
MI fydd rhwng 2,00 a 4,000 arall yn cael eu difa
Cafwyd tri achos newydd o'r clwy traed a genau ym Mannau Brycheiniog.
Mae 500 o ddefaid a 60 o wartheg yn cael eu difa ar Fferm Park Lodge, Llwyn Du, ger Y Fenni. Roedd y ddau achos arall mewn defaid ar Y Bannau. Mae'r cyfanswm yng Nghymru felly wedi codi i 117. Yn y cyfamser mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd yna dri ymchwiliad cyhoeddus i'r argyfwng clwy traed a genau. Mae Carwyn Jones, Gweinidog Materion Gwledig y Cynulliad, wedi croesawu'r cyhoeddiad. Ond yn ôl Elin Jones, cadeirydd Plaid Cymru, mi ddylai fod yna ymchwiliad cyhoeddus i'r argyfwng fel y gall pobol Cymru gymryd rhan yn y broses. Difa rhagor Yna y cyfamser cyhoeddodd y Cynulliad y bydd miloedd mwy o ddefaid yn cael eu difa ar Fannau Brycheiniog a'r gwaith yn dechrau ddydd Gwener. Yn ôl Carwyn Jones dydy'r clwy ddim yn rhemp yn Y Bannau ond ei fod yn ymledu'n araf. Roedd yn bwysig meddai bod y Cynulliad yn gweithredu ar frys. Mi fydd rhwng 2,000 a 4,000 yn cael eu difa'n ychwanegol i'r 6,500 sydd eisoes wedi'u difa yno. Yn dilyn y profi cafwyd tystiolaeth bod y clefyd mewn dwy ddiadell arall sydd â chyfanswm o rhwng 1,000 a 2,000 o ddefaid. Mi fydd y rhain hefyd yn cael eu difa.
|
See also:
Internet links:
The BBC is not responsible for the content of external internet sites Top UK stories now:
Links to more UK stories are at the foot of the page.
|
||||||||||||||||||||
Links to more UK stories
|
|
|
^^ Back to top News Front Page | World | UK | UK Politics | Business | Sci/Tech | Health | Education | Entertainment | Talking Point | In Depth | AudioVideo ---------------------------------------------------------------------------------- To BBC Sport>> | To BBC Weather>> ---------------------------------------------------------------------------------- © MMIII | News Sources | Privacy |
|