| You are in: World: Middle East | ||||||
|
|
Thursday, 9 August, 2001, 14:58 GMT 15:58 UK
Bom yn lladd 17 yn Jeriwsalem
Aeth dwsinau o ambiwlansys i'r tý pizza
Lladdwyd o leiaf 17 ac anafwyd dros 70 wedi i fom ffrwydro mewn tý pizza ynghanol Jeriwsalem.
Mae'r Jihad Islamaidd wedi cyfaddef mai un ohonyn nhw osododd y bom ac mi gafodd o'i ladd yn y ffrwydriad.
Ar y Lan Orllewinol a Llain Gaza mae swyddogion diogelwch yn gadael eu hadeiladau'n barod am ymosodiad gan yr Israeliaid. Roedd y bom ffrwydrodd yn Jeriwsalem yn llawn hoelion ac yn un o'r digwyddiadau gwaethaf ers dechrau'r intifada (gwrthryfel). Dywedodd llefarydd ar ran Jihad Islamaidd bod y bom yn "anrheg mewn ymateb i araith yr Arlywydd Saddam Hussein".
Daeth yr ymosodiad ar adeg pan mae'r Palesteiniaid eisiau dial ar yr Israeliaid am dargedu a lladd eu swyddogion yn fwriadol. Mae Awdurdod y Palesteiniaid wedi rhoi'r bai ar Brif Weinidog Israel Ariel Sharon am ddilyn polisïau llym. Rhybuddiodd swyddog o Awdurdod y Palesteiniaid bod gweithrediadau Israel yn caledu barn y Palesteiniaid ac yn ei gwneud yn anodd iddyn nhw reoli'r Lan Orllewinol a Llain Gaza. Roedd y gefnogaeth i Hamas a Jihad Islmaidd ar gynnydd, meddai.
|
Internet links:
The BBC is not responsible for the content of external internet sites Top Middle East stories now:
Links to more Middle East stories are at the foot of the page.
|
||||
Links to more Middle East stories
|
|
|
^^ Back to top News Front Page | World | UK | UK Politics | Business | Sci/Tech | Health | Education | Entertainment | Talking Point | In Depth | AudioVideo ---------------------------------------------------------------------------------- To BBC Sport>> | To BBC Weather>> ---------------------------------------------------------------------------------- © MMIII | News Sources | Privacy |
|