| You are in: UK | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Friday, 2 March, 2001, 17:34 GMT
Pryder am ganolfan iechyd cyn-lowyr
![]() Mae'n rhaid i gyn-lowyr gael eu hasesu cyn gallu hawlio iawndal
Mi allai canolfan yn Wrecsam i archwilio iechyd cyn-lowyr orfod cau am nad oes ganddi hi ganiatâd cynllunio.
Mae'r ganolfan eisoes wedi bod yn destun beirniadaeth am fod mor ara'n trin ceisiadau am iawndal, ac mae'n debyg rwan y bydd dros fil o gyn-lowyr yn wynebu misoedd yn rhagor o oedi os bydd yn rhaid symud i safle newydd. Daeth hanes cythryblus canolfan iechyd cyn-lowyr Wrecsam i'r amlwg y tro cyntaf ym mis Tachwedd y llynedd pan ddatgelwyd nad oedd yr un cais am iawndal wedi cael ei gyflwyno oddi yno mewn 12 mis. Mae'n dal i fod yn un o'r canolfanau arafaf ym Mhrydain, ac yn ôl llefarydd ar ran Healthcall, y cwmni sy'n rhedeg y ganolfan ar ran y llywodraeth, maen nhw yn dal i gael trafferthion mawr yn cael gafael ar ddogfennau meddygol. Colli apêl Ond i ychwanegu at y trafferthion, doedd gan y cwmni ddim caniatâd cynllunio i leoli canolfan dros dro ar safle ar Ffordd Grosvenor yn y dre, ac maen nhw newydd golli eu hapêl i'r Cynulliad Cenedlaethol am ganiatâd cynllunio. Dywed llefarydd ar ran Healthcall y gallai gymryd hyd at bum mis i symud i safle newydd gan olygu oedi pellach i'r cyn-lowyr. Yn ôl Alf Jones, cyn-lowr o Rosllanerchrugog, mi allai symud i leoliad newydd achosi anghyfleusdra i nifer o lowyr sydd yn dal i ddisgwyl am iawndal. Mae'r ganolfan yn dal ar agor ar hyn o bryd gan nad ydi Cyngor Wrecsam wedi cyflwyno'r gorchymyn iddi gael ei chau. Yn ôl y Cynghorydd Aled Roberts, fyddan nhw ddim yn cyflwyno'r gorchymyn nes iddyn nhw ystyried pob dewis posib. Mae'n anochel y bydd yn rhaid i'r ganolfan symud o'i safle presennol maes o law, ac mae hynny'n bryder mawr i gannoedd o lowyr o fewn yr ardal sy'n dal i ddisgwyl am archwiliadau meddygol cyn gallu cyflwyno cais am iawndal.
|
Internet links:
The BBC is not responsible for the content of external internet sites Top UK stories now:
Links to more UK stories are at the foot of the page.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Links to more UK stories
|
|
|
^^ Back to top News Front Page | World | UK | UK Politics | Business | Sci/Tech | Health | Education | Entertainment | Talking Point | In Depth | AudioVideo ---------------------------------------------------------------------------------- To BBC Sport>> | To BBC Weather>> ---------------------------------------------------------------------------------- © MMIII | News Sources | Privacy |
|