BBC Homepage World Service Education
BBC Homepagelow graphics version | feedback | help
BBC News Online
 You are in: In Depth:
Front Page 
World 
UK 
UK Politics 
Business 
Sci/Tech 
Health 
Education 
Entertainment 
Talking Point 
In Depth 
AudioVideo 

Thursday, 1 March, 2001, 11:29 GMT
Disgwyl help i fusnesau bach

gan Ellis Roberts, Gohebydd Busnes BBC Cymru

Bob blwyddyn, gan amla, mae'r dyfalu'n frith yr adeg yma ynglýn â chynnwys y gyllideb.

Eleni, mae argyfwng clwy'r traed a'r genau wedi bwrw cysgod dros y cyfan - fel y gall y Canghellor gynllunio heb i sylwadau cyson y gohebwyr fennu arno dim.

Ond efallai y bydd pwysau arno i gyfeirio at fyd amaeth wrth draddodi'i araith.

Yr wythnos yma mi gyhoeddodd y Llywodraeth y byddai £152m ar gael i ddigolledu ffermwyr o'r gronfa sy'n lliniaru ar effaith y bunt gref.

Ond mi fydd yr undebau amaethyddol yn siwr o bwysleisio y dylid bod wedi rhoi'r arian yma i'r ffermwyr waeth am yr argyfwng newydd yma sy'n tarfu ar weithgarwch economaidd ar hyd a lled y wlad.

Toriadau treth?

Lle sonnir am fusnes, disgwylir toriadau treth, ac mae'r Canghellor eisoes wedi awgrymu y gallai ostwng treth gorfforaethol ymhellach.

Y llynedd mi ddaeth cyfradd 10c i rym ar gyfer busnesau bach - mae'n debyg y bydd mwy o gwmnïau nawr yn cael manteisio ar y gyfradd honno.

Mae'n debyg y bydd rhagor o gymhellion i gwmnïau ymgymryd â gwaith ymchwil - eto ar ffurf trethi is.

Ac mi fydd gweithwyr yn cael eu hannog ymhellach i brynu cyfranddaliadau yn eu cwmnïau'u hunain, lle bo modd gwneud hynny.

Cyfranddaliadau

I'r perwyl hwn mae disgwyl i'r dreth ar werthu cyfranddaliadau - Treth ar Enillion Cyfalaf - gael ei thocio.

Ond y cwestiwn y mae llawer o fusnesau'n ei ofyn ydy beth ydy agwedd y Llywodraeth tuag at yr ewro, yn enwedig gan fod cryfder y bunt - a gwendid yr ewro - wedi gwneud allforio i'r Cyfandir yn fwy fwy anodd.

Yn ddiweddar mi ddywedodd y Prif Weinidog y gellid disgwyl penderfyniad o fewn dwy flynedd i ail ethol Llywodraeth Lafur - a chymryd, wrth gwrs, y digwyddith hynny.

Tawedog, felly, fydd y Canghellor ar y mater yma - er yr holl ddiswyddiadau diweddar yn y sector gynhyrchu.

Mae'r enghreifftiau - Corus, Valeo, Sony, Panasonic, KTH - yn lleng.

Search BBC News Online

Advanced search options
Launch console
BBC RADIO NEWS
BBC ONE TV NEWS
WORLD NEWS SUMMARY
PROGRAMMES GUIDE
Links to more Wales stories are at the foot of the page.


E-mail this story to a friend

Links to more Wales stories