| You are in: UK: Wales | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Tuesday, 26 December, 2000, 15:47 GMT
Datblygiadau dramatig ym myd y celfyddydau
![]() Bu farw RS Thomas ym Medi yn 87
Gan Ohebydd Celfyddydau BBC Cymru Jon Gower
Roedd hon yn flwyddyn pan oedd datblygiadau dramatig ym myd y celfyddydau. Daeth Cyngor y Celfyddydau o dan chwyddwydr y Cynulliad a daeth gwendidau mawr yn amlwg. Ymddiswyddodd y prif weithredwr Joanna Weston wedi i'r mudiad gael ei feirniadu'n hallt. Ac roedd Canolfan y Mileniwm y y newyddion pan ddatgelwyd fod amcangyfri costau adeladu'n fwy na £100m.
Daeth saga Canolfan y Celfyddydau Gweledol yng Nghaerdydd i ben yn 2000. Flwyddyn wedi iddi agor, caeodd ei drysau ar 5 Tachwedd. Serch hynny, roedd arwyddion fod ffuglen yn symud i'r cyfeiriad iawn. Ymateb positif Cafodd tri llyfr ymateb positif oddi wrth y cyhoedd a'r beirniaid. Yn 'The Chivalry of Crime' llwyddodd Desmond Barry o Ferthyr i ysgrifennu nofel gyffrous am fywyd anodd Jesse James. Roedd Trezza Azzopardi ar restr fer Gwobr Booker a Gwobr Ffuglen Gynta'r Guardian ac roedd ei nofel 'The Hiding Place' yn darlunio bywyd mewnfudwyr o Ynys Melita yn Nociau Caerdydd yn y pumdegau. Ac yn ôl rhai, llyfr y flwyddyn oedd Niall Griffiths' 'Grits', portread sensitif o sut mae pobol sy'n cymryd cyffuriau'n ceisio cadw eu hunan-barch.
Ac yng Nghaerdydd canodd David Gray, a gafodd ei godi yn Solfach, dyn oedd yn gyfrifol am yr albwm llwyddiannus, 'White Ladder. Yn y Gogledd roedd gwyl Bryn Terfel yn y Faenol yn llwyddiant ysgubol. Yn 2000 bu farw un o gewri llenyddiaeth Saesneg. Roedd R.S. Thomas yn 87. Roedd yn fardd heb ei ail ac yn un o'r beirdd crefyddol gorau yn llenyddiaeth Saesneg. Mewn iaith rymus a chynnil ymchwiliodd i Dduw, dathlodd natur, gwawdiodd dechnoleg a galarodd yr elfennau gwerthfawrhynny ym mywyd Cymru oedd wedi diflannu.
|
See also:
Internet links:
The BBC is not responsible for the content of external internet sites Top Wales stories now:
Links to more Wales stories are at the foot of the page.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Links to more Wales stories
|
|
|
^^ Back to top News Front Page | World | UK | UK Politics | Business | Sci/Tech | Health | Education | Entertainment | Talking Point | In Depth | AudioVideo ---------------------------------------------------------------------------------- To BBC Sport>> | To BBC Weather>> ---------------------------------------------------------------------------------- © MMIII | News Sources | Privacy |
|